Yr Holocost a Chymru - Pennod 1. Bywyd yn Ewrop cyn y Rhyfel (Trawsgrifiad)
Disgrifiadau
Yn y bennod gyntaf hon (gallwch wrando arni ar https://www.casgliadywerin.cymru/items/2225671), byddwn yn edrych ar fywyd Iddewon yng Nghanol Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd. Byddwn yn clywed straeon y ffoaduriaid a ddaeth i Gymru yn y 1930au. Sut fywyd oedd ganddyn nhw cyn gadael? Sut newidiodd hyn dros gyfnod o ddegawd? A beth oedd y sbardun – yr arwydd eu bod mewn perygl – a’u hysgogodd i ffoi?
Byddwch yn clywed lleisiau goroeswyr, neu eu plant, a recordiwyd fel rhan o gyfweliadau hanes llafar a gynhaliwyd gan y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, y Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, ag Amgueddfa Ryfel Ymerodrol. Gellir ei ddefnyddio i ategu dysgu am yr Holocost mewn ysgolion ar Gam Cynnydd 4 a thu hwnt.
I gael gafael ar ein hadnoddau addysgiadol am yr Holocost a Chymru, sy’n addas ar gyfer Camau Cynnydd 3 a 4, ewch i https://www.casgliadywerin.cymru/learn/query/holocaust
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment