Theatr Fach Llangefni yn y 1960au-1970au
Sefydlwyd Theatr Fach Llangefni yn 1955 gan George Fisher a oedd ar y pryd yn ysgrifennydd Cymdeithas Ddrama Llangefni. Roedd y cwmni drama amatur hwnnw wedi bod yn weithredol ers 1942, ond ychydig dros ddegawd yn ddiweddarach ymgeisiodd George Fisher yn llwyddiannus am gymorth arainnol gan y British Arts Council, a ffurfiwyd y Theatr Fach. Ddechrau'r 1960au daeth Theatr Fach Llangefni yn aelod o Urdd y Theatrau Bach, ac maent wedi parhau i berfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg oddi ar hynny gan fynd o nerth i nerth. Mae'r casgliad hwn o ffotograffau gan Geoff Charles yn dangos rhai o gynyrchiadau Theatr Fach Llangefni yn yr 1960au a'r 1970au yn cynnwys rhai golygfeydd gefn llwyfan. Fel y gwelir o'r casgliad, perfformiwyd gweithiau gan ddramodwyr enwog yng Nghymru, yn cynnwys D.T. Davies, John Gwilym Jones a Wil Sam, yn ogystal ag ambell un o Loegr megis Arthur Miller. Aeth nifer o'r actorion a oedd yn rhan greiddiol o Theatr Fach Llangefni yn y cyfnod hwn - er enghraifft, J. O. Roberts, Ellen Roger Jones, Charles Williams a Margaret Charles Williams (Marged Esli) - ymlaen i fod yn wynebau cyfarwydd ar S4C yn ddiweddarach.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment