Skip to main content

Cyflwyniad o "Castell Martin" gan D T Davies yn Theatr Fach Llangefni

Disgrifiadau

Llun 1: "Mewn unrhyw chwaraedy un o'r agweddau pwysicaf yw lliw a llun: yn enwedig lliw y cymeriadau. Felly dacw Mrs Mair Jones yn coluro Megan L Jones i gymryd rhan Rhiannon, Rol Davies yn ymgymhwyso'n Dafydd Pitars, y dyn yswiriant, Vernon Jones yn ei weddnewid ei hun yn Dr Tudor Bifan M.D.H, a Mr Evan John Jones yn troi Albert Owen yn Isaac Lewis, bartwr Llanybryn ar gyfer y cyflwyniad o "Castell Martin" y gomedi mewn pedair act o waith D T Davies yn Theatr Fach Llangefni."
Llun 2: "Byddai chwaraedy heb effeithiau megis modur heb gorn neu eglwys heb gloch. A chyn dechrau perfformio "Castell Martin" yn Theatr Fach Llangefni gofelir fod cyfryngau sain a chanu yn gweithio fel cloc gan Llewelyn Jones, arolygydd y llwyfan, a dau o'i gynorthwywyr, Olwen Lewis a Brian Williams."
Llun 3: Dim disgrifiad
Llun 4: Theatr Fach Llangefni 1961 Mai, cynhyrchiad o "Castell Martin" yn cael ei wylio gan Myfanwy Howell sy'n beirniadau ymgais Llangefni i ymuno gyda Chynghrair Cenedlaethol y Theatrau Bach.
Llun 5: Theatr Fach Llangefni. Mae'r rheolwr archebu tocynnau yn edrych ar ol y seddi a'r tocynnau.
Llun 6: Theatr Fach Llangefni. George Fisher oedd ei sylfaenydd ac roedd y Theatr Fach yn gwneud cais am fod yn aelod o Gynghrair Theatrau Bach, gyda Myfanwy Howell yn barnu pa mor gymwys oeddent. Cymerwyd y llun hwn o'r tu allan i'r theatr sydd wedi ei addasu o hen adeiladau fferm.
Llun 7: Theatr Fach Llangefni, Mai 25, 1961. Bechgyn rhannu rhaglenni yn y theatr.
Llun 8: "Nod Theatr Fach Llangefni yw ymaelodi yn Urdd Genedlaethol Theatrau Bychan nad oes ond 23 o'r deng mil ym Mhrydain yn perthyn iddi. Un o'r ychydig rheini yw Theatr y "Playgoers" yng Nghasnewydd. Ar y dde yn y darlun cewch Mrs Myfanwy Howell aelod o'r mudiad hwnnw sydd yn frodor o Llangefni. Dewiswyd hi oherwydd ei gwybodaeth o Gymraeg i ddyfarnau ar bwys y perfformiad o "Castell Martin", a yw Cymdeithas Ddrama'r dref yn deilwng o'r anrhydedd. Pwy warafunai iddi air bach gyda Mr George Fisher yr Ysgrifennydd cyn i'r llen godi."
Llunau 9 - 11: Cynhyrchiad o 'Castell Martin' gan D. T. Davies yn Theatr Fach Llangefni, Mai 25, 1961.
Llun 12: Y mae J. O. Roberts, cynhyrchydd "Castell Martin", yn haeddu lle yn yr haul a'i lun yn y papur ers blynyddoedd - y mae'n athro ac adroddwr ac yn actiwr. Yn feirniad adrodd, yn ddarlledwr a darllenwr llen a barddas. Amryddawn iawn y gwnaed ef.
Lluniau 13 - 14: Cynhyrchiad o Castell Martin gan D. T. Davies in Theatr Fach Llangefni, May 25, 1961.
Lluniau 15 - 33: Cynhyrchiad o Castell Martin by D T Davies in Theatr Fach Llangefni, 1961.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
26/11/2020
Gwelediadau:
568
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment