Yr Holocost a Chymru: Bywyd crefyddol ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru
Mae’r adnodd hwn yn edrych ar fywyd crefyddol ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru.
Roedd crefydd yn rhan bwysig o fywyd llawer o ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru. Roedd llawer yn mynychu synagogau a cheder (addysg grefyddol). Pan oedd Ellen Davis ac Erwin Kestenbaum yn blant ac yn ffoaduriaid, roeddent yn mynychu Synagog Stryd y Geifr yn Abertawe (cafodd Erwin ei bar mitzvah yno) cyn iddi gael ei dinistrio yn ystod Blitz Abertawe yn 1941.
Mae deddfau dietegol Iddewig, sydd wedi'u gwreiddio mewn crefydd, yn nodi pa fwydydd y gall neu na allant Iddewon eu bwyta. Mae'r cyfreithiau hefyd yn rhagnodi sut mae'r bwyd yn cael ei baratoi cyn iddo gyrraedd y cartref ac oddi mewn iddo. Yn gyffredinol, po fwyaf Uniongred yw cefndir person, y mwyaf agos y cedwir at y rheolau hyn.
Bydd dysgwyr yn clywed tystiolaeth hanes llafar gan ddau ffoadur Kindertransport – un yn disgrifio gwasanaethau crefyddol yng Nghastell Gwrych ac un am ddefodau crefyddol yn eu cartref dros dro.
Delwedd uchod: Dosbarth Cheder, Abertawe Beth Hamedrash, 1908-09. Delwedd trwy garedigrwydd Leonard Mars.
Mae'r adnodd yn cynnwys:
I. Canllawiau i Athrawon:
- Beth yw diben, nodau dysgu, a ffocws yr adnodd?
- Pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae'r adnodd yn helpu i'w datblygu?
- Sut y mae'r adnodd yn cefnogi dysgu mewn cyd-destunau lleol (cynefin), cenedlaethol a rhyngwladol?
- Gwybodaeth gefndir am fywyd crefyddol Iddewig.
- Syniadau a chwestiynau.
- Dolenni i ymchwil a rhagor o wybodaeth.
II. Gweithgareddau i Ddysgwyr:
- Gweithgareddau awgrymedig.
Lluniwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol yn 2021-22, yn rhan o'r prosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost i ysgolion Cymru' rhwng y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth, a Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC). Cefnogwyd y prosiect trwy garedigrwydd Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig, Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson, Cymdeithas Hanes Iddewig Lloegr a Sefydliad Garfield Weston.
Fe'i diwygiwyd yn 2024 i weddu i ofynion Cwricwlwm i Gymru, a hynny gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) a diolch i grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson.
Cwricwlwm i Gymru
Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
.
You must be logged in to leave a comment