Ffotograff o'r brodyr Krotosky yn eu siop cigydd ar City Road, Caerdydd, 1984
Disgrifiadau
Ffotogtaff o Arnold (yn sefyll) a Gabriel Krotosky yn eu siop cigydd kosher yn City Road. Yn ôl perchennog y llun, Philip Kaye, roedd y ffotograff wedi cael ei dynnu yn1984.
Symudodd siop y cigydd o Bridge Street fel rhan o'r cynllun Datblygu Ardal Ganolog, pan adeiladwyd yr Ice Rink a ‘Toys r Us’ gyntaf. Roedd y Krotoskys yn meddwl nad oedden nhw'n mynd i gael eu heffeithio gan y prosiect gan nad oedd y datblygiad ond yn mynd mor bell â warws Glicker’s Toy. Ond gydag wythnos yn unig cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau, sylweddolodd y teulu bod Gorchymyn Prynu Gorfodol wedi ei anfon at eu cyfreithiwr a'i fod wedi cael ei roi ar ffeil tra oedd o ar ei wyliau. Cawsant gynnig adeilad yn Clifton Street a oedd yn hollol anaddas, ond llwyddasant i ddod o hyd i adeilad gwell yn City Road, ac aethant ati i'w drawsnewid dros un penwythnos.
Prynodd Arnold a'i wraig, Freda, y busnes gan Gabriel ac arhosodd y ddau yn City Road hyd nes ymddeoliad Arnold yn 70 oed yn 1992 pan symudodd i Bournemouth.
Roedd y cigydd kosher M. Krotosky yn Caroline Street yn cael ei redeg gan gangen arall o'r teulu. Yn ddiweddarach, symudodd y busnes hwn i Frederick Street.
Ffynhonnell: Gwybodaeth a ddarparwyd i JHASW gan deulu Krotosky/Kaye.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment