Skip to main content

Yr Holocost a Chymru: Meddygon, Deintyddion a Nyrsys Ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru

Mae’r adnodd hwn yn trafod erledigaeth meddygon, deintyddion a nyrsys Iddewig yn yr Almaen Natsïaidd a’r anawsterau a gawsant fel ffoaduriaid yn y DU.

Delwedd uchod: Paul Bosse (yn sefyll, chwith) yn cyfarfod Hitler yn Wittenberg, yr Almaen, ym 1935. Tynnwyd y ffotograff hwn ar ôl ffrwydrad mewn ffatri arfau gerllaw. Er gwaethaf ei holl waith, cafodd Paul ei ddiswyddo chwe mis yn ddiweddarach. Llun trwy garedigrwydd Heini Gruffudd.

Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

 

Cwricwlwm i Gymru

Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

.

You must be logged in to leave a comment