Skip to main content

Clip sain o gyfweliad hanes llafar gyda Josephine Bruegel: ennill MD Tsiecoslofacia tra ym Mhrydain, 1996

Disgrifiadau

Mae’r clip sain hwn o gyfweliad hanes llafar gyda Josephine Bruegel a recordiwyd gan yr Imperial War Museums ar 28 Chwefror 1996. Yn y clip, mae Josephine yn sôn am gymhwyso ar gyfer ei ‘MD Czechoslovakia’ tra ym Mhrydain.

Josephine Bruegel – bywgraffiad byr.

Ganed Josephine Bruegel yn 1914 yn Stráž yn yr Ymerodraeth Awstro-Hwngari (y Weriniaeth Tsiec heddiw). Myfyriwr meddygol oedd hi ym Mhrâg pan oresgynnodd yr Almaenwyr Tsiecoslofacia. Ffodd i Brydain, lle bu'n gweithio fel nyrs yn Llundain cyn cael ei symud i Gaerdydd ym 1944. Ar ôl y rhyfel, symudodd hi a'i gŵr yn ôl i Tsiecoslofacia, ond dychwelodd i Brydain ar ôl i'r Comiwnyddion gymryd drosodd ei mamwlad ym 1948. Parhaodd i ymarfer meddygaeth ac roedd yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Sgitsoffrenia Genedlaethol. Bu hi farw yn 2005.

Trawsgrifiad.

Ac yna…mae’n rhaid mai mis Chwefror neu fis Mawrth oedd hi [1941], sefydlodd llywodraeth alltud Tsiec, a ddaeth o Ffrainc, ei hun yma, a gyda’r fyddin Tsiec daeth tua hanner cant o filwyr oedd yn yr un sefyllfa â mi – heb orffen eu hastudiaethau meddygol ond wedi gwneud y blynyddoedd clinigol, felly trefnwyd y gallent nhw a minnau orffen eu hastudiaethau yma. Felly, cawsom i gyd ein rhoi mewn prifysgolion amrywiol.

[…]

Ac yna daeth y sefyllfa ryfedd ... pa fath o radd i’w rhoi i ni. Roedd yn rhaid i’r radd hon fod yn werthfawr yn Tsiecoslofacia hefyd, oherwydd roedd pawb eisiau mynd yn ôl, ac nid oeddent eisiau wneud unrhyw un o’r arholiadau eto. Felly, yr hyn a ddigwyddodd oedd, bod Prifysgol Rhydychen wedi mabwysiadu Prifysgol Prâg, a gafodd ei chau, felly cefais y diploma hwn yn Rhydychen mewn mawr ogoniant. MD Tsiecoslofacia oedd ei enw.

Ffynonellau.

Bruegel, Joža, Memoirs [cyrchwyd 29 Gorffennaf 2022]

Amgueddfeydd Ryfel Imperialaidd, Cyfweliad hanes llafar gyda Josephine Bruegel, 28 Chwefror 1996 [cyrchwyd 2 Awst 2022]

Storfa: Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol

Owner:
Imperial War Museums (IWM)
Crëwr:
IWM (production company)Conrad Wood (recorder)Josephine Bruegel (interviewee/speaker)
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
8/8/2022
Gwelediadau:
676
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment