Capeli ac eglwysi'r Wladfa
Capeli ac eglwysi'r Wladfa
Cyn gynted ag yr oeddynt wedi ymgartrefu yn Nyffryn Camwy ym 1865, dechreuodd y gwladfawyr gynnal gwasanaethau crefyddol ffurfiol yn y stordy pren syml a godwyd yng nghanol pentref Caer Antur. Roedd y Parchedigion Abraham Matthews a Lewis Humphreys (gweinidogion gyda'r Annibynwyr) yn cymryd eu tro i arwain y gwasanaethau bob yn ail fore Sul.
Cwricwlwm i Gymru
Y Dyniaethau
Hanes. Addysg Grefyddol
Oed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer Cam Cynnydd 4.
You must be logged in to leave a comment