Penddelw o John Scandrett Harford gan Lawrence Macdonald, 1847
Disgrifiadau
Roedd J. S. Harford yn fab i fanciwr blaenllaw ym Mryste. Prynodd ystad Peterwell, Llanbedr Pont Steffan ym 1815, neu'n fuan wedi hynny, ar y cyd gyda'i frodyr iau. Cyfarfu ag Esgob Burgess, sylfaenydd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ym 1820 ac yn fuan wedi hynny cynigiodd Harford safle Castell Llanbedr Pont Steffan i Burgess, sef 'Cae Castell', a oedd bellach yn eiddo iddo ef a'i frodyr, fel Arglwyddi'r faenor. Dyma pam y lleolwyd y Coleg yn Llanbedr Pont Steffan, yn hytrach nag yn Llanddewibrefi, sef bwriad gwreiddiol Burgess.
Cerfiwyd y penddelw hwn yn Rhufain ym 1847 gan Lawrence MacDonald (1799-1878), cerflunydd adnabyddus a oedd ymhlith sylfaenwyr yr Academi Frenhinol yn Rhufain. Arferai'r penddelw sefyll mewn cilfach ar y wal ym mhrif neuadd Falcondale, y plasty a adeiladwyd gan J. S. Harford ar gyrion Llanbedr Pont Steffan, ac yno y bu, yn eiddo i'r teulu, hyd nes i'r ystad gael ei gwerthu ar ddechrau'r 1950au. Dychwelodd y penddelw i'r ardal ar ddiwedd yr 1970au pan gafodd ei gyflwyno yn anrheg i'r Brifysgol gan bennaeth presennol teulu Harford, Syr Timothy Harford, trydydd Barwnig, sef gor-gor-nai J. S. Harford.
Ffynhonnell: A. J. Brothers, 'Art at Lampter', yn 'A bold imagining: University of Wales Lampeter 1827-2002', goln. Keith Robbins a John Morgan-Guy, 2003
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment