Skip to main content

Cerfwedd cwyr o Thomas Burgess (1756-1837) gan Richard Cockle Lucas

Disgrifiadau

Thomas Burgess (1756-1837) oedd sylfaenydd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Roedd yn esgob Tyddewi rhwng 1803 a 1825 ac esgob Salisbury o 1825 hyd ei farwolaeth.

Mae'r cerfwedd cwyr hwn yn ei ffrâm wreiddiol yn dangos penddelw cwyr gwyn o Burgess ar gefndir brown tywyll hirgrwn, sydd hefyd o gwyr. Mae'r cefndir hirgrwn wedi ei osod mewn ymyl melfed lliw oren tywyll/sinsir a fu unwaith yn goch (fel y datgelwyd pan gafodd y ffrâm ei dynnu).

Ganed Lucas yn Salisbury a bu farw yn Chilworth, ger Caer-wynt, ac roedd felly yn ddewis naturiol i gyflawni'r gwaith. Mae'r cerfwedd hwn o Burgess yn arbennig o ddiddorol oherwydd i'r nodyn printiedig canlynol gael ei lynu ar gefn y ffrâm sydd wedi ei arwyddo R. C. Lucas Otterbourne Winchester:

'Extract from the Salisbury and Winchester Journal, April 1, 1843.
Bust of the late Bishop Burgess. - The admired bust of the late Bishop Burgess, modelled by our townsman, Mr. Lucas, the eminent sculptor, and by him presented to the late Mr. Davies of the Close, was yesterday (Friday), at the sale by Mr. Sutton of that gentleman's effects, after a warm and spirited competition, knocked down at the sum of 120 guineas. The bust in question, which is beautifully modelled in wax, is about six inches in height. It is esteemed a wonderful likeness of our late Diocesan.'

Prynwyd y cerfwedd gan y Brifysgol mewn arwerthiant yng ngogledd Lloegr beth amser wedyn yn ystod yr 1950au neu ddechrau'r 1960au, ond ni wyddys os cafodd swm yn cyfateb i 120 gini (126) ei dalu y tro hwn.

Ffynhonnell: A. J. Brothers, 'Art at Lampter', yn 'A bold imagining: University of Wales Lampeter 1827-2002', Keith Robbins a John Morgan-Guy (goln.), 2003

Owner:
University of Wales, Lampeter
Crëwr:
Lucas, R. C.
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Prifysgol Cymr
Copyright Details:
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan 2003
Publisher Ref:
GTJ10704
Eitem wedi’i llwytho:
1/2/2010
Date originally created:
1800-1899
Gwelediadau:
1206
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment