Skip to main content

Cadair Gludo o Ddinbych-y-pysgod

Disgrifiadau

Roedd cadeiriau cludo yn boblogaidd yn Ninbych-y-Pysgod o'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Yn ystod y 19eg ganrif roedd masnachwr o'r enw Cadwallader, oedd a'i fusnes ar Frog Street, yn eu rhoi ar log. Byddai merched yn cael eu cludo ynddynt ar eu ffordd i ddawnsiau, partïon neu i gymdeithasu.

Defnyddiwyd y gadair hon i gludo Miss Stokes, priodferch un o Feiri Dinbych-y-Pysgod, i'r eglwys yn Hwlffordd ar ddiwrnod ei phriodas ym 1872. Fe gyflwynwyd y gadair i Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod ym mis Ebrill 1896 gan y teulu Richards, Croft House a fu'n chwarae rhan blaenllaw ym mywyd cyhoeddus y dref.

[Ffynhonnell: Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod]

Owner:
Tenby Museum and Art Gallery
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod
Copyright Details:
Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod 2003
Publisher Ref:
GTJ08566
Eitem wedi’i llwytho:
28/1/2010
Date originally created:
1800-1899
Gwelediadau:
665
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment