Paratoadau funud olaf yn Swyddfa'r Eisteddfod Genedlaethol, Caernarfon
Disgrifiadau
Paratoadau funud olaf yn Swyddfa'r Eisteddfod Genedlaethol, Caernarfon
Llun 1: Mr J. Haydn Jones (canol), ysgrifennydd cyffredinol Eistedfodd Genedlaethol Caernarfon a Gwyrfai, yn trafod manylion gyda is-gadeiryddion y Pwyllgor Gwaith, Mr D. M. Evans a Mr R. H. Owen.
Llun 2: Yn neilltuo seddau ar gyfer yr Eistedfodd Genedlaethol yng Nghaernarfon drwy gyfrwng siart ar y mur. Y mae Mr D. M. Evans, Mr Tom Hughes, Mr Parry a Mr Bryan Jones.
Llun 3: Delio a'r arian - dyna waith pwysig yn swyddfa'r Eistedfodd Genedlaethol fel ym mhob swyddfa arall. Yn y swyddfa yn Nghaernarfon y mae Miss Enid Thomas, Miss Glenys Williams, Mrs Helen Phillips a Mr O. T. Jones yn rhoi trefn ar bethau.
Llun 4: Ar y mur y mae plan o drefn y seddau ym mhafiliwn mawr ac yn edrych arno yn swyddfa'r Eistedfodd --- y mae cadeirydd y Pwyllgor cyhoeddusrwydd y Parch Terry Thomas, Mrs Thomas a'r ddwy ferch Rhian a Catrin.
Llun 5: Y mae'r trefniadau terfynnol ar gyfer y Brifwyl yn cyrraedd eu hantreth erbyn hyn. Daw nifer o swyddogion a gwirfoddolwyr i swyddfa'r Eisteddfod yng Nghaernarfon bob nos i ddelio a llu o faterion. Ac y mae'r Eistedfod ei hunan yn dechrau wythnos i'r Llun nesaf.
Llun 6: A dyma goron yr Eistedfodd yn nwylo'r Archdderwydd, y Parch. William Morris. Pwy gaiff ei gwisgo ddydd Mawrth nesaf tybed? Ar y chwith y mae Mr J. Lewis Jones y Felinheli. Lluniwyd y Goron sy'n rhoddedig gan Mr Humphreys Jones, Lerpwl, gan yr Athro R. L. Gapper, Aberystwyth.
Llun 7: O amgylch Cadair Prifwyl Caernarfon a Gwyrfai, a gyrchwyd i swyddfa'r Eistedfodd fore Llun, y mae (o'r chwith) Mr J. Haydn Jones (ysgrifennydd cyffredinol), Mr J. E. Owen-Jones (llywydd y Pwyllgor Gwaith), Mr Gwyn Hughes, Amlwch (a wnaeth y gadair), y Parch. William Morris (Archdderwydd) a Mr Lewis Jones.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment