LLGPN.1983.190 (2).jpg
Disgrifiadau
Ym 1876, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am y tro cyntaf.
Roedd yn Eisteddfod gofiadwy, ond am resymau trist. Dyfarnwyd y Gadair i Thomas Jones o Langollen, oedd ag enw barddol Taliesin o Eifion, am ei awdl. Yn anffodus, bu farw Taliesin o Eifion y noson yr anfonwyd ei gerdd i Wrecsam. Dyma’r tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod i’r Gadair gael ei gorchuddio mewn du er cof (yr ail dro mwyaf adnabyddus oedd pan ddyfarnwyd y Gadair i Hedd Wyn ym 1917, 6 wythnos ar ôl i’r bardd farw mewn brwydr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf).
Roedd adroddiad ym mhapur Baner ac Amserau Cymru yn dweud bod y seremoni’n un emosiynol. Dechreuodd y Fonesig Edith Wynne grïo yn ystod ei pherfformiad ac roedd aelodau’r gynulleidfa yn eistedd ‘a’r dagrau yn burstio allan yn ddistaw, ac yn rhedeg yn afonydd ar hyd eu gruddiau
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment