Nwyddau claddu o'r Oes Efydd a gloddiwyd ym Medd Branwen, Sir Fôn
Disgrifiadau
Gleiniau muchudd a ddarganfuwyd yn y gladdfa a elwir yn 'Bedd Branwen', gerllaw Afon Alaw, Llanbabo, Sir Fôn.
Erbyn y flwyddyn 1600 C.C. roedd yn arfer cyffredin i amlosgi cyrff. Yn dilyn y seremoni amlosgi, byddai'r lludw a'r esgyrn naill ai yn cael eu casglu a'u claddu mewn twll yn y ddaear neu'n cael eu gadael ar yr wyneb. Weithiau byddai eitemau fel arfau neu addurniadau personol yn cael eu llosgi a/neu eu claddu gyda'r corff. Mae gwahaniaeth rhwng gwrthrychau a oedd yn addurno'r corff ar y goelcerth a gwrthrychau a osodwyd at ddefnydd yr ymadawedig yn y byd arall: offrymau yw'r rhain. Cafodd y mwclis muchudd ac ambr a welir yma ei gynnig fel offrwm a'i osod yn y bedd (claddedigaeth H). Gosodwyd y mwclis ar ben yr esgyrn ac mae'n arwydd o gyfoeth a statws y gymuned a'r ymadawedig. Mae mwclis cyfansawdd o'r math hwn i'w gweld yn weddol aml yn ardal Wiltshire. Byddai ambr yn cael ei fewnforio o ardal y Baltig gan arweinyddion Wessex, diwylliant grymusaf y cyfnod, cyn cael ei ddefnyddio i fasnachu gyda'r gwahanol lwythau eraill. Nid oedd ambr ar gael yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn, felly mae'r mwclis bychan yn arwydd bod rhywfaint o fasnachu gyda phobl Wessex.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment