Nwyddau claddu o'r Oes Efydd a gloddiwyd ym Medd Branwen, Sir Fôn
Disgrifiadau
Glain muchudd a ddarganfuwyd yn y gladdfa a elwir yn 'Bedd Branwen', gerllaw Afon Alaw, Llanbabo, Sir Fôn.
Erbyn y flwyddyn 1600 C.C. roedd yn arfer cyffredin i amlosgi cyrff. Yn dilyn y seremoni amlosgi, byddai'r lludw a'r esgyrn naill ai yn cael eu casglu a'u claddu mewn twll yn y ddaear neu'n cael eu gadael ar yr wyneb. Weithiau byddai'r lludw yn cael ei roi mewn yrnau crochenwaith. Weithiau byddai eitemau fel arfau neu addurniadau personol yn cael eu llosgi a/neu eu claddu gyda'r corff. Mae gwahaniaeth rhwng gwrthrychau a oedd yn addurno'r corff ar y goelcerth a gwrthrychau a osodwyd at ddefnydd yr ymadawedig yn y byd arall: offrymau yw'r rhain. Cafodd y glain plaen ar ffurf casgen a welir yma ei gynnig fel offrwm a'i osod ar waelod yr wrn amlosgi. Roedd y glain yn hen iawn pan gladdwyd ef (claddedigaeth C) ac fe'i gwnaed o fuchudd Whitby neu lignit. Mae'n bosibl ei fod yn rhan o fwclis.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment