Pastwn bychan a roddwyd i 'SW' gan Lionel Lindsay i goffáu Streic Glo'r Cambrian, 1910
Disgrifiadau
Achoswyd anghydfod glowyr Tonypandy ym 1910 yn bennaf gan newid y system cyflogi. Talwyd y glowyr yn ôl swmp y glo a gynhyrchent, ond petai'r wythïen a weithient yn un arbennig o anodd, yna ychwanegwyd cymhorthdal i'w tâl. Roedd perchnogion y pyllau'n awyddus i ddod â'r system cymorthdaliadau i ben, ac fe wylltiodd hyn y glowyr.
Ym mis Hydref 1910, cafodd tua 800 o lowyr a oedd wedi gwrthwynebu'r system cyflog newydd eu cloi allan o'r lofa. Yn dilyn hyn, aeth tua 12,000 o lowyr ar streic ac arweiniodd y gwrthdaro rhwng y streicwyr a'r heddlu at drais a therfysg. Penderfynodd yr Ysgrifennydd Cartref Winston Churchill anfon milwyr i'r ardal a buont yno am rai wythnosau. Nid oedd gan y glowyr unrhyw ddewis ond derbyn y telerau gwaith newydd a dychwelyd i'r gwaith ym mis Hydref 1911.
Bu farw un o'r glowyr wedi iddo, yn honedig, gael ei daro ar ei ben gan bastwn yr heddlu. Mae'n eironig felly i'r pastwn hwn gael ei gyflwyno i 'S.W' fel gwobr am ei wasanaeth yn ystod y cyfnod cythryblus hwn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment