Tonypandy, 1910
Aflonyddwch Diwydiannol
Yn ystod cyfnod a elwir ‘The Great Unrest’ yn y 1910au, gwelwyd tensiynau cymdeithasol ac aflonyddwch diwydiannol yn ne Cymru ac ar draws Prydain.
Digwyddiad sy’n cael ei ystyried yn nodweddiadol o’r cyfnod yw’r terfysgoedd yn Nhonypandy a oedd yn gysylltiedig â streic ym mhyllau glo’r Cambrian Combine.
Erbyn Hydref 1910 roedd bron un ym mhob chwech o lowyr De Cymru ar streic ac, ar 8 Tachwedd 1910, ffrwydrodd y tensiynau rhwng streicwyr a’r heddlu a bu gwrthdaro ffyrnig rhwng y ddwy ochr. Roedd y streicwyr wedi ymgynnull wrth y pyllau glo er mwyn datgan eu hanfodlondeb ynglŷn â’r sefyllfa. Aeth y sefyllfa dros ben llestri ac fe ddifrodwyd y rhan fwyaf o siopau’r dref, tua 60 i gyd, yn ogystal a thai swyddogion y pyllau. Lladdwyd un glöwr.
Anghydfod chwerw
Roedd eisoes cannoedd o’r heddlu yn yr ardal er mwyn diogelu’r pyllau, y swyddogion a’r gweithwyr a oedd yn torri’r streic. Serch hynny, cymaint oedd ofn yr awdurdodau lleol y byddai’r sefyllfa’n gwaethygu, galwyd heddlu ychwanegol o Lundain i roi cymorth. Ychwanegodd hyn at ddrwgdeimlad y torfeydd, a oedd yn amgylchynu’r pyllau glo, tuag at yr awdurdodau. O ganlyniad, penderfynodd Prif Gwnstabl Morgannwg, a oedd yn bryderus y byddai’r sefyllfa'n mynd yn drech na’i heddweision, y dylid gofyn am gymorth ychwanegol gan yr Ysgrifennydd Cartref, Winston Churchill. Yn sgil y cais hwnnw, ac er gwaethaf amheuon Churchill, anfonwyd milwyr i’r ardal i geisio cadw’r heddwch. Arhosodd y milwyr yn yr ardal am fisoedd lawer a roedd eu presenoldeb yn atgas i nifer o’r trigolion. Gwnaeth y weithred honno Churchill yn amhoblogaidd yn y Rhondda am ddegawdau.
Daeth y streic i ben yn hydref 1911 gyda siom i’r glowyr unwaith eto. Daeth Tonypandy yn symbol o weithredu mwy milwriaethus yn yr hyn a welir fel y frwydr rhwng y gweithwyr a pherchnogion y pyllau glo.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment