Skip to main content

Tegan ‘Gorsedd y Beirdd’

Disgrifiadau

Tegan ‘Gorsedd y Beirdd’ a gynhyrchwyd gan Vale of Clwyd Toys, tua 1915.

Cynhyrchwyd y tegan yma o’r Orsedd gan gwmni teganau ‘Vale of Clwyd Toys’ ar gyfer Eisteddfod Bangor 1915. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod honno, cafodd y cwmni arddangosfa yn neuadd tref Bangor, a bu cryn ddiddordeb yn y tegan o’r Orsedd. Miss Mary Heatton (Mair Hettwn), Plas Heaton, Trefnant oedd sylfaenydd y fenter deganau. Roedd hi’n awyddus i gynnig gwaith i ddynion lleol ac fe gafodd gymorth y cerfiwr coed, Edward Jones i’w dysgu. Sylwch ar fanylder y portreadau - peintiwyd y teganau gan Meta Jones ac artistiaid eraill. Prynwyd tegan yr Orsedd gan yr Arglwydd Leverhulme yn rhodd i’r Amgueddfa Genedlaethol ym 1917. Cafodd y modelau eu harddangos yn Neuadd y dref Dinbych yn 1917 cyn eu danfon i’r Amgueddfa y flwyddyn honno.

Crëwr:
Vale of Clwyd Toys
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
19/7/2017
Gwelediadau:
1214
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment