Llun o Hwfa Môn
Disgrifiadau
Llun o Hwfa Môn gan Hubert von Herkomer, 1895. Het ar ffurf meitr esgob oedd gan yr Archdderwydd cyn i Herkomer ail-gynllunio’r wisg.
Tra roedd Hwfa Môn yn Archdderwydd rhwng 1894-1905, cafwyd adfywiad yng Ngorsedd y Beirdd.
Dyluniwyd gwisg yr Archdderwydd ar ei newydd wedd gan yr artist o Fafaria, Hubert von Herkomer, a gwblhaodd y goron a’r ddwyfronneg ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Casnewydd yn 1896. Roedd Hwfa Môn, gyda’i ysgwyddau llydan a’i osgo urddasol, yn fodel delfrydol. Aeth Herkomer ati i’w baentio yn ei wisg newydd gan ddatgan:
"Fortunately the love of the picturesque has not been eradicated from man’s nature...for an arch druid to be wrongly dressed, that is too dreadful to contemplate".
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment