Dau fachgen yn hel Calennig
Dau fachgen yn hel Calennig
Disgrifiadau
Dau fachgen yn hel Calennig, ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae rhoi rhoddion ar Ddydd Calan yn arfer hen iawn. 'Hel Calennig' oedd enw'r traddodiad hwn yng Nghymru. Byddai criwiau o blant yn mynd o dŷ i dŷ gan ddymuno pob iechyd a llwyddiant i'r teulu am y flwyddyn i ddod. Symbol o hyn oedd yr afalau a garient ar sgiweri, wedi'u haddurno ag ŷd a dail bytholwyrdd. Byddent yn canu penillion ar garreg y drws, ac yn cael rhodd o fwyd neu arian am eu trafferth. Mae'r arfer o gario afalau wedi hen ddiflannu erbyn hyn, a bellach dim ond adrodd penillion a chasglu ceiniog neu ddwy mae plant mewn ardaloedd lle mae'r traddodiad yn parhau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment