Skip to main content

Casglu Calennig

Roedd hi'n draddodiad ers lawer dydd i griwiau o fechgyn fynd o dŷ i dŷ ar ddiwrnod cynta'r Flwyddyn Newydd i ddymuno iechyd a llwyddiant i'r teulu ar gyfer y flwyddyn oedd i ddod. Arferent gario afalau wedi eu haddurno gyda dail bythwyrdd, a chanu penillion ar riniog y drws. Er bod yr arfer o gario afalau wedi dod i ben i bob pwrpas, mae'r hen draddodiad hwn o gasglu calennig yn parhau mewn sawl lle yng ngefn gwlad Cymru, lle bydd plant yn casglu arian am ganu penillion ar ddydd cynta'r flwyddyn:

'Calennig yn gyfan ar fore dydd Calan
Unwaith, dwywaith, tair!
Blwyddyn Newydd Dda i chi!'

Gwelediadau:
2124
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
19/12/2019

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment