Neges heddwch ac ewyllys da plant Cymru, 2003.
Disgrifiadau
Poster Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2003.
Themâu: apelio ar ran plant a phobl ifanc y byd ar i arweinyddion wrando; angen cyd-fyw yn well i orchfygu trais, rhyfel, rhagfarn a hiliaeth; anelu am gyd-fyw llwyddiannus drwy gyfathrebu a chael gwared o agweddau negyddol. Wedi ei lunio gan Ysgol Gyfun Gwyr. Dyfyniad: "Yn ein hoes fodern heddiw, gwelwn fod trais a rhyfel, rhagfarn a hiliaeth yn cynyddu o ddydd i ddydd….Sail cyd-fyw llwyddiannus yw cyfathrebu a siarad. Felly ymbiliwn ar arweinyddion y byd i wrando a thrafod cyn gweithredu….Gadewch inni gofio a dysgu am ein cymuned leol a chymuned y byd drwy barchu pobl eraill, eu traddodiadau a’u diwylliant, a cheisio dileu agweddau negyddol….Credwn fod gan bob un ohonom ran i’w chwarae er mwyn sicrhau heddwch.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment