Skip to main content

Neges heddwch ac ewyllys da plant Cymru, 2014.

Disgrifiadau

Poster Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2014.
Themâu: Effaith rhyfel, Rhyfeloedd Byd, ffosydd a bwledi, defnyddio synhwyrau, ofn, gofyn sut deimlad yw byw mewn byd o heddwch, galw ar arweinwyr byd arwain mewn modd di-drais, cyfrifoldeb yr unigolyn hefyd. Lluniwyd gan ysgolion uwchradd Y Berwyn, Ardudwy, Tywyn, Moelwyn a’r Gader. Dyfyniad: "Tybed sut mae mesur y golled? Fesul 16 miliwn? Y rhyfel byd cyntaf. Fesul 50 miliwn? Yr ail ryfel byd. Y trydydd? Tybed? Tybed sut fyddai bywyd heb ryfel? A thybed sut flas sydd ar heddwch? Sut sŵn yw sŵn tangnefedd? Sut arogl? A thybed pryd y daw pobl i weld trwy’r celwyddau a phryd y daw casineb i ben? A phwy a ddaw i roi cymod yn ein byd? Tybed ai ti? Ai fi? Tybed? Cred ieuenctid Cymru y gall pobl y byd ddatrys eu problemau heb drais, ac yn 2014, gofynna’r neges hon i arweinwyr y byd gymodi â’i gilydd a dilyn ffordd heddwch.”

Uwchlwytho gan
Dyddiad Ymuno:
24/03/2015
Owner:
LlGC / NLW
Crëwr:
Youth of Wales via Urdd / League of Nations
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
LlGC, Aberystwyth
Eitem wedi’i llwytho:
14/10/2016
Date originally created:
1/1/2014
Gwelediadau:
1360
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment