Neges heddwch ac ewyllys da plant Cymru, 1985.
Disgrifiadau
Poster Neges Heddwch ac Ewyllys Da 1985.
Themâu: perygl arfau niwclear angen i’r ieuenctid gydweithio, Aelwyd Trawsfynydd, Trawsfynydd yn edrych ar ôl Glyn sy’n ddall, Regina o’r Almaen yn helpu trefnu ymweliad ieuenctid a chyswllt a Thrawsfynydd, ymfalchïo yng ngallu technegol creu ynni o niwclear, arswydo yn y defnydd o dechnoleg niwclear i fygwth difodiant dynoliaeth, Blwyddyn Rhyngwladol Ieuenctid, cysylltiadau rhwng ieuenctid y gwledydd yn bwysig, apêl i ddeall eraill a’u syniadau a’u dyheadau, lleihau drwgdybiaeth yn ein byd. Dyfyniad: "Ym mlwyddyn ryngwladol ieuenctid ymrwymwn i’r newydd i wneud ein rhan i wella cyflwr ein cyd-ddynion, i ddatblygu cysylltiadau ag ieuenctid mewn gwledydd eraill, a phrofi mai llaw cyfeillgarwch a chariad wnaiff sicrhau heddwch yn ein byd, ac nid dwrn bygythiol arfau niwclear…. Os gall ieuenctid fel ni siarad â’n gilydd, byddwn yn cyfrannu at well dealltwriaeth rhwng cenhedloedd bach a mawr, gan leihau drwgdybiaeth ac anwybodaeth a rhagfarn ein byd.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment