Neges heddwch ac ewyllys da plant Cymru, 1983.
Disgrifiadau
Poster Neges Heddwch ac Ewyllys Da 1983.
Themâu: eistedd wrth yr afon, dyheu am groesi’r afon a bod yn gyfeillion gyda phobl o’r ochr arall, sut mae croesi’r afon, nid afon gyffredin, blynyddoedd o ryfela, trais a chasineb wedi difwyno’i dyfroedd, ni lwyddodd neb ei chroesi drwy frwydro, felly ei chroesi drwy godi pont, defnyddiau crai yn barod, Sylfaen o gariad a brawdgarwch, muriau o ymddiriedaeth, canllaw o ffydd a goddefgarwch, codi o’r ddwy ochr a chyfarfod yn y canol. Dyfyniad: "Ond sut i groesi’r afon - dyna’r anhawster, oherwydd nid afon gyffredin mohoni. Mae blynyddoedd o ryfela, o drais, a chasineb, wedi difwyno’i dyfroedd hi, ac ni lwyddodd neb erioed i’w chroesi trwy frwydro yn erbyn ei llif. Os na allwn ei chroesi fel hyn, yna fe awn drosti drwy godi pont - un a fydd yn uchel a chadarn fel na all y bwrlwm ewynllyd oddi tani ein cyffwrdd.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment