Darnau o jariau canoloesol
Disgrifiadau
Cafodd y jariau hyn, sydd heb eu gwydro ac o ddeunydd garw, eu canfod yn y Tri Chastell. Mae angen gwneud rhagor o waith i ddeall mwy am eu gwneuthuriad a’u deunyddiau.
Megis dechrau oedd ein dealltwriaeth o grochenwaith canoloesol pan oedd gwrthrychau’r Tri Chastell yn cael eu cloddio o’r pridd. Disgrifiadau sylfaenol iawn oedd yr adroddiadau arbenigol, ac ychydig a wyddom am fathau penodol o grochenwaith. Mae technegau dadansoddi newydd yn ein helpu i ddeall mwy am y gwrthrychau.
Rhwng y 1960au a’r 1990au, cymerwyd camau breision at ddeall y mathau rhanbarthol o grochenwaith a ddaeth i’r fei yn y Tri Chastell trwy ddefnyddio techneg o’r enw dadansoddi strwythur.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment