Darganfyddiadau canoloesol o’r Tri Chastell: y Castell Gwyn, Castell Ynysgynwraidd a Chastell y Grysmwnt
Mae gan Amgueddfa Cymru ddeunydd archaeolegol o rai o’r cestyll mwyaf i oroesi yn Sir Fynwy. Cliriwyd y safle yn y 1920au a’r 1930au, ac yn y 1950au bu archaeolegwyr yn cloddio yno. Daeth gwrthrychau i’r fei yn y Tri Chastell, gan gynnwys llawer iawn o grochenwaith canoloesol.
Mae arbenigwyr wedi astudio’r crochenwaith hwn dros y degawdau er mwyn ceisio deall sut y cafodd ei greu, pryd ac ym mhle. Maent wedi llwyddo i adnabod mathau gwahanol o lestri, a chanfod cysylltiadau rhyngddynt ag ardaloedd penodol. Mae’r wybodaeth hon yn helpu archaeolegwyr i ddeall patrymau masnach a defnydd yn well.
Cafodd y casgliad ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 fel rhan o gyfraniad Amgueddfa Cymru i'r stondin Lle Hanes.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment