Portread o David Lloyd George yn ddyn ifanc, 1879
Disgrifiadau
Mae David Lloyd George tua 16 mlwydd oed yn y llun yma. Ar l llwyddo yn arholiadau rhagbaratoawl Cymdeithas y Gyfraith cafodd waith fel prentis-gyfreithiwr yn swyddfa Breese, Jones a Casson ym Mhorthmadog yn 1878. Yn y cyfnod yma hefyd y dechreuodd ddod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth. Yn 1885 yn dilyn anghydweld yn y swyddfa ym Mhorthmadog sefydlodd fusnes ei hun yng Nghricieth, ac yn yr un flwyddyn fe'i gwelwn yn cymryd rhan flaenllaw yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Meirionnydd fel Rhyddfrydwr. Ar ddechrau y flwyddyn ddilynol wrth rannu llwyfan mewn cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog gyda'r cenedlaetholwr Gwyddelig, Michael Davitt, a'r cenedlaetholwr Cymreig, y Parchg Michael D Jones, yr oedd wedi dangos ei ochr yn gwbl eglur fel "radical".
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment