David Lloyd George yn annerch 40,000 o lwyr yn Sutton Ashfield
Disgrifiadau
Yn dilyn Cyllideb 1909 parhaodd David Lloyd George i ddatblygu polisau lles cymdeithasol ac yn 1911 fe gyflwynodd y Mesur Yswiriant Cenedlaethol yn sefydlu cynlluniau yswiriant iechyd a diweithdra gorfodol. Unwaith eto fe gafodd wrthwynebiad ffyrning oddi wrth y dde, oddi wrth rai ar y chwith, ac oddi wrth sawl grwp oedd diddordeb yn y maes. Cafwyd protestiadau yn erbyn yr egwyddor taw'r cyflogwr oedd i ludo'r stampiau yswiriant ar y cerdyn yswiriant. Daeth yr ymgyrch yma i'w hanterth gyda rali y Meistresau a'u Morwynion yn Neuadd Albert. Wedi gweiddi sloganau amrywiol, gan gynnwys "Taffy is a Welshman, Taffy is a thief!", daeth y noson i ben gyda Lady Besart yn cyhoeddi, "England... never did nor never shall lie at the proud foot of a conqueror." Pasiwyd y mesur.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment