Cartŵn: "PC Lloyd George 87D, Late of Town Hall Birmingham, Dec 18th 1901."
Disgrifiadau
Dioddefodd David Lloyd George a'i deulu yn fawr am ei safiad ynglyn 'r rhyfel. Cafodd Margaret, ei wraig, ei sarhau gan gyfeillion a diethriaid yn Llundain a Chricieth. Rhaid oedd tynnu Richard, ei fab, o'r ysgol fonedd oherwydd bwlio ar fater y rhyfel yn Ne Affrica. Cafodd hyd yn oed delwau o'i frawd William ac Uncle Lloyd eu llosgi ar "Mafeking Night." Daeth yr ymosodiadau i'w pen-llanw pan aeth Lloyd George i annerch cyfarfod yn Birmingham ym mis Rhagfyr 1901. I gorws o "Traitor! Traitor! Bloody traitor! Pro-Boer! Kill 'im! Kill the bloody traitor!" troes y noson yn reiat, ni chafodd annerch, bu'n rhaid iddo ddianc wedi'i wisgo fel plismon. Roedd yn rhaid i'r heddlu dorri'r dorf i fyny ac fe fu'n rhaid i rhyw ddeugain gael triniaeth mewn ysbyty.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment