Eglwys Sant Collen, a adeiladwyd tua diwedd y 6g
Eglwys Sant Collen, a adeiladwyd tua diwedd y 6g
Disgrifiadau
Fe fu farw'r Fonesig Eleanor Butler ar Fehefin 2il 1829 yn naw deg oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Collen. Fe fu farw Miss Sarah Ponsonby ar Ragfyr 9fed 1831 yn saith deg chwech oed ac fe'i claddwyd wrth ochr Eleanor. Mae brawddeg ar ei charreg fedd yn darllen, "but they shall no more return to their house neither shall their place know them any more". Gellir darganfod y gofadail tair ochrog i'r Fonesig Eleanor Butler, Miss Sarah Ponsonby a'u gwraig cadw tŷ, Mary Carryl yn y fynwent, yn y fan y cafodd ei chodi dros eu beddi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment