Sgwrs rhwng aelodau o dîm Cysur y Sêr
Sgwrs rhwng aelodau o dîm Cysur y Sêr
Disgrifiadau
4 o dîm Cysur y Sêr yn dod at ei gilydd i drafod eu gwaith nhw ar y brosiect: Tamar Williams (chwedleuwr), Fiona Collins (chwedleuwr), Mair Tomos Ifans (chwedleuwr), Dani Robertson (Swyddog Awyr Dywyll, Eryri).
Mae’r sgwrs yma’n cynnwys:
- Cyflwyniad byr i waith bob person.
- Amlinelliad gyflym o brosiect Cysur y Sêr.
- Dani Robertson: beth oedd y sefyllfa gyda chwedloniaeth y sêr yn Nghymru cyn y brosiect? Sut oedd pobl yn cysylltu gyda’r sêr?
- Dim lot o wybodaeth ar gael, dim ond hen enwau, angen dilyn yr edafedd o un stori/hen enw i’r llall a dod o hyd i gysylltiadau rhwng cymunedau.
- Mae clywed hen straeon/enwau am y cytserau o Gymru yn cael yr effaith o gysylltu pobl yn benodol gyda’u tirwedd nhw a’u cyndeidiau nhw.
- Mair Tomos Ifans: trafodaeth o’i hymchwil hi i fewn i hen lenyddiaeth o’r 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif am y sêr, i gynnwys:
- Diffyg tystiolaeth yn lincio hen enwau gyda straeon gyfan.
- Tystiolaeth yn yr hen gyfrolau am bobl yn rhyfedda at y sêr, edrych lan at y sêr am gysur, yn enwedig pan roedd teuluoedd yn ymfudo i ochr arall y byd.
- Twr Tewdws – hen enw am y Pleiades.
- Hen enwau am y Llwybr Llaethog.
- Hen farddoniaeth o’r cyfrolau’n cyfeirio at y sêr.
- Y cysylltiad rhwng addoli’r creadwr (Duw) a’r hen chwedloniaeth, y tylwyth teg ac ati, a sut nad oedd hwn yn ddeoliaeth ond yn hytrach yn cael ei gofleidio.
- Cân wreiddiol Mair.
- Fiona Collins: trafodaeth o’i gwaith hi ar y brosiect, gan gynnwys:
- Gwaith ar lafar gyda grwpiau Merched y Wawr.
- Y diharebion a’r hen enwau ddaeth hi o hyd iddyn nhw.
- Casgliad Twm Elias, Y Tywydd.
- Llyfr Marie Trevelyan a’r dihareb am yr aradr.
- Dod o hyd i hen enw am Wregys Orion, sef Cogail y Forwyn/Llathen Mair.
- Edrych tua’r dyfodol, beth yw’r gwaith i’w wneud nesaf?
- Cynnwrf am y potensial i chwedleuwyr rannu’r straeon yma ymhellach ac i’r hen atgofion/chwedloniaeth gyfoethogi ein gwaith ni.
- Cysylltu hud a lledrith yr hen straeon gyda’r gwyddoniaeth er mwyn dod â phobl yn agosach at awyr y nos.
Mae'r sgwrs hon yn y Gymraeg.
Mi fydd tudalennau a hen gylchgronau sy'n cael eu trafod yn cael eu huwchlwytho wrth ymyl hon.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment