Cerdyn post John William Evans o'r Royal George
Cerdyn post John William Evans o'r Royal George
Disgrifiadau
Roedd John William Evans (a adwaenir fel Jack) yn hanu'n wreiddiol o Gnwcyrosfa, Bethania, Sir Aberteifi. Fe ymunodd â'r Welsh Regiment ym mis Awst 1914 ac fe wasanaethodd yn Ffrainc yn gynnar yn 1915 cyn dychwelyd i Loegr. Fe hwyliodd ym mis Mehefin 1915 gyda'r Mediterranean Expeditionary Force oedd ar ei ffordd i'r Dardanelles (Gallipoli). Dyma gerdyn post a ddanfonodd at ei rieni pan oedd ar fin hwylio o Fryste. Mae'n dangos ei long, y Royal George.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment