Trychineb argae Dolgarrog
Disgrifiadau
Ar 2 Tachwedd 1925, torrodd yr argae yn Llyn Eigiau a gorlifodd y dyfroedd gan ddinistrio'r gronfa yn y Coedty ac yna ffrydio'n wyllt i lawr y dyffryn. Lladdwyd 16 o bobl - 6 ohonynt yn blant - a dinistriwyd popeth gan y llif. Byddai'r golled wedi bod hyd yn oed yn fwy pe na bai cyfran helaeth o bentrefwyr Dolgarrog wedi bod yn edrych ar ffilm sinema yn yr Assembly Rooms ar y pryd. Cofnododd y cwêst reithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn achos y rhai a laddwyd yn y drychineb. Daeth i'r amlwg nad oedd gan argae Llyn Eigiau seiliau addas, a bod y concrid a ddefnyddiwyd o safon isel. Serch hyn ni ddygwyd unrhyw achos yn erbyn yr un unigolyn na chwmni oedd yn gysylltiedig â chodi na chynnal a chadw'r argae. Mae'r ffotograff hwn yn dangos y dinistr a ddaeth yn sgil y drychineb ar Ffordd Conwy-Llanwrst.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment