Pasbort Paul Robeson
Disgrifiadau
Roedd sylwadau Paul Robeson ar sosialaeth, hiliaeth a chomiwnyddiaeth wedi dod ag ef i sylw Pwyllgor UDA ar Weithgareddau Anamericanaidd. Ymddangosodd o flaen pwyllgorau sawl gwaith, ac yn 1948 gwrthododd roi ateb i'r cwestiwn a oedd yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol ai peidio.
"Dydw i ddim yn cael fy rhoi ar brawf am a ydw i'n Gomiwnydd, rwy ar brawf am frwydro dros hawliau fy mhobl, sydd o hyd yn ddinasyddion eilradd yn Unol Daleithiau America... Rydych chi am gau ceg pob Negro sydd â'r dewrder i sefyll a brwydro dros hawliau ei bobl... Am fod fy nhad yn gaethwas ac am fod fy mhobl wedi marw i adeiladu'r wlad hon. Rwy'n mynd i aros yma a bod yn rhan ohoni fel chithau. Ac ni fydd unrhyw bobl o fryd ffasgaidd yn fy ngyrru ohoni. Ydy hynny'n glir?"
Cafodd pasbort Robeson ei dynnu oddi wrtho.
Cafodd ymgyrch Gadewch i Paul Robeson Ganu ei sefydlu yn 1954 er mwyn rhoi'n ôl ei hawliau sifil i deithio'r byd i siarad ac i ganu.
Yn 1950 dyfarnwyd i Robeson Y Wobr Heddwch Ryngwladol yn Warsaw, ynghyd â Pablo Picasso ac enillodd Wobr Heddwch Ryngwladol Stalin yn 1952.
Yn 1951 arweiniodd ddirprwyaeth i'r Cenhedloedd Unedig i gyflwyno deiseb Cyngres Hawliau Sifil. Y cyhuddiad oedd bod 15 miliwn o bobl ddu America'n cael eu gorfodi i fyw mewn amgylchiadau a oedd yn achosi marwolaeth gynnar, tlodi a haint.
Cafodd ei basbort ei ddychwelyd yn y pen draw ym mis Gorffennaf 1958.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment