Pobl mwyafrif byd-eang sydd yn Ysbrydoli
Casgliad sy'n dathlu cyfraniad pobl sy'n ysbrydoli eraill, yn cynnwys Paul Robeson, a fu'n ysbrydoliaeth i'r Cymry fel cenedl, a hefyd arweinwyr cymmunedol, arweinwyr crefyddol ac unigolion sydd wedi gwasanaethu'r gymuned mewn rol broffesiynol. Mae gan eraill straeon am hanes eu teuluoedd yn mudo, sydd yn ysbrydoli rhywun. Darwin Hinds oedd cynghorydd du cyntaf Cymru a ddaeth yn ddiweddarach yn faer i Gyngor Tref y Barri yn yr 1960au ac fe wnaeth Mrs Vernster Cyril, oedd yn gweithio yn Ysbyty Frenhinol Gwent, dderbyn gwobr Bydwraig y Flwyddyn gan y British Journal of Midwifery yn 2006. Mae ffigyrau nodedig eraill a welir yn y casgliad hwn yn cynnwys Mrs May Ling Evans, Cadeirydd Grŵp Cymunedol Tsieineaidd Casnewydd, Abby Farah MBE, llongwr ac entrepreneur o Somalia a ddaeth yn arweinydd cymunedol yn y Barri a'i fab, Abdulrahim Abby Farah a ddaliodd swydd Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol i'r Cenhedloedd Unedig, ac a wnaeth gyfraniad pwysig at y trafodaethau i ryddhau Nelson Mandela.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment