Cyflwyniad 'Atgofion William John, Pant' i Gymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen, 2024
Disgrifiadau
Mae’r cyflwyniad yn ceisio rhoi blas o rhai o’r atgofion sydd yn rhan o gasgliad William John Roberts ( 1906-1982). Mae’r casgliad yma i’w weld yng Nghasgliad y Werin Cymru (https://www.casgliadywerin.cymru/users/54226), ac yn ffrwyth llafur gwr a fu’n gweithio yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda, rhwng 1920 a tua 1953. Byddai ei gyfoedion ym Methesda wedi ei adnabod fel “William John, Pant”, gan ei fod wedi ei fagu yn yr ardal honno o’r dref.
Amcan y cyflwyniad ydi rhoi syniad o’r amrediad eang o wybodaeth cymdeithasol sydd i’w weld yn y casgliad. Yn ogystal a thrafod gwaith yn un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd yn y cyfnod hwnnw, mae’r atgofion yn cyfeirio at - er enghraifft - ddyfodiad y ffilmiau cyntaf i’r sinema ym Methesda, gan honni fod eu dylanwad cymdeithasol yn fwy syfrdanol na dylanwad y Diwygiad Crefyddol rhyw ugain mlynedd ynghynt ! Mae cyfeiriadau hefyd at gyfeillgarwch y bardd, R. Williams Parry, gyda chwarelwyr, ac arferion hamdden y bardd a’i griw, fyddai’n mwynhau ambell beint o gwrw yn Ngwesty’r Douglas.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment