William John Roberts (1906 – 1982), Bethesda
Ganwyd fy nhad, William John Roberts ( “William John, Pant”, i nifer fawr o’i gyfoedion) yng nghartref ei deulu, sef “Meillionen”, 10 Ffordd Pant, Bethesda, Gwynedd, ar 4 Mawrth 1906. Bu farw yn Ysbyty Mon ac Arfon, Bangor, ar 16 Mai 1982. Ei fam oedd Margaret ( g. Williams) a’i dad, o safbwynt pob dogfennaeth swyddogol, oedd William R. Roberts. Fe ddaw hyn a ni yn syth at fater sydd yn rhan o dreftadaeth ein teulu – sef, bod William John yn gwbl argyhoeddedig mai nid William R Roberts oedd ei dad, ond yn hytrach Dr. Edward Mills Roberts. Meddyg yn Ysbyty Bryn Llwyd, ysbyty preifat ar gyfer gweithwyr Chwarel y Penrhyn, oedd Dr. Edward Mills Roberts. Roedd Margaret yn gweithio fel morwyn yn yr Ysbyty, ac mae darlun ohoni a sawl un arall oedd yn gysylltiedig a’r Ysbyty, gan gynnwys Mrs Mills Roberts ( ond nid Dr Edward Mills Roberts ) yng nghyfrol Robin Willis, The Penrhyn Quarry Hospital at Brynllwyd. Mae’n bosib iawn na fyddwn byth yn gwybod beth oedd y gwirionedd. Ond, yn sicr, dyma sydd yn egluro’r defnydd lled-gyson o ddyfynodau o amgylch y gair “Tad” yn y ddwy gyfrol yma. Mae’n amlwg hefyd nad oedd William John yn or-hoff o’i dad swyddogol, ac wedi ei frifo gan ddiffyg cefnogaeth a chydnabyddiaeth William R. Roberts.
Roeddynt yn deulu reit niferus ar gyfer eu cartref bychan, gyda pedwar brawd a dwy chwaer wedi eu geni rhwng 1903 a 1921. Bu un o’r chwiorydd farw yn ifanc iawn. Fel bron bob dyn arall yn Nyffryn Ogwen, yn y cyfnod hwnnw, gweithio yn Chwarel y Penrhyn oedd William R Roberts. Yno hefyd y bu’n rhaid i William John fynd yn 1920, oherwydd – fel mae’n esbonio – nad oedd modd i’r teulu fedru ‘fforddio cadw pob un o’r plant yn yr ysgol. Dilynodd William John y broses oedd wedi ei lunio erbyn y cyfnod hwnnw ar gyfer hyfforddi a datblygu sgiliau hollti a naddu llechi to, ac hefyd y sgiliau sydd yn gysylltiedig efo creigio. Mae’n bwysig ein bod yn atgoffa’n hunain bod hyn wedi ei gyflawn trwy ddilyn yr hyn mae o’n ei alw yn “Drefn Newydd” yn y chwarel. Roedd yr “Hen Drefn”, trefn fyddai wedi bod yn gysylltiedig a’r gorffennol, ac efo cyfnod Streic Fawr y Chwarel, rhwng 1900 a 1903, wedi dod i ben erbyn 1920, a trefniadau gweithredol cyfan gwbl newydd wedi eu mabwysiadu. Mae’n siŵr bod William John ymhlith y criwiau cynharaf o fechgyn ifanc i brofi’r “Drefn Newydd”, ac mae’n trafod y cyfnod yma yn fanwl a deallus. Yr un mor bwysig hefyd ydi cofio bod y Chwarel yn parhau’n gyflogwr enfawr bryd hynny, gyda oeddetu 2000-2500 yn parhau i gael eu cyflogi.
Mae’r atgofion a’r hanesion sydd ganddo yma yn mynd a ni mewn manylder hyd at tua 1930. Erbyn hynny, roedd William John yn chwarelwr ifanc profiadol, hyderus, balch o’i grefft, oedd hefyd yn amlwg efo diddordeb byw yn hanes, daeareg a gweithrediad y chwarel. Rwy’n credu ei fod wedi ei benodi’n “farciwr” oddeutu 1930. Byddai hynny’n golygu ei fod yn aelod o’r tim rheoli, ac felly’n cael cyfle pellach i ddeall trefniadau a chyfundrefnau y chwarel. Arhosodd yn y Chwarel tan 1939, ac yna ymuno efo’r Awyrlu.
Wedi dychwelyd yn ddiogel ar derfyn yr Ail Ryfel Byd, yn 1945, ail-gychwynnodd ei waith fel “marciwr”. Erbyn hyn, roedd wedi cyfarfod a priodi fy mam, Mary (Mair) Margaret Jones – hithau yn ferch o Fethesda, ac yn athrawes hanes. Buont yn byw am gyfnod yn y fflat uwchlaw Ysbyty’r Chwarel, gyda fy mrawd, Gareth, yn dod yn rhan o’r teulu yn 1947. Erbyn 1954, roedd William John wedi penderfynu nad oedd am aros yn y Chwarel ymhellach. Mae son ( ond dim cadarnhad y gwn amdano) ei fod wedi ei gyfweld ar gyfer swydd fel Rheolwr y Chwarel, tua’r adeg yma, ond heb lwyddo. Credaf hefyd ei fod wedi ei gyfweld ar gyfer swydd fel Rheolwr Chwarel Manod, Blaenau Ffestiniog, tua’r un cyfnod. Yn anffodus, does fawr ddim am y cyfnod rhwng 1930 a 1954 yn y cofnodion.
Beth bynnag am hynny, roedd ganddo dystebau o’i fedrusrwydd peirianyddol a thrydanol, o’i gyfnod yn yr Awyrlu. Gan ddefnyddio rhain, cafodd swydd yn y Royal Aircraft Establishment yn Boscombe Down yn 1954. Ymunodd Mair a Gareth a fo rhai misoedd yn ddiweddarach. Symudodd y teulu bach yn eu blaen i Aber-porth, Ceredigion, yn 1955, gyda William John yn cael gwaith yn sefydliad ymchwil yr RAE yno. Fe’m ganwyd innau yn Aberteifi yn 1956, a bu’r teulu wedyn yn byw yn Nhremain, Parc-llyn ac Aber-porth, tan 1970.
Er y symud daearyddol, doedd Chwarel y Penrhyn, a’r diwydiant llechi, fyth ymhell o sylw William John. Roedd nifer o gyn-chwarelwyr yn gweithio yn yr RAE, a’r cyfeillgarwch rhyngddynt wedi ei drosglwyddo i Geredigion. Pleser mawr iddo hefyd oedd cael croesawu y Parch Huw Gwynfa Roberts, brodor o Ddyffryn Peris, fel gweinidog yr Hen Gapel yng nghanol yn 1960’au. Byddai teithiau a gwyliau cyson yn Nyffryn Ogwen ( roedd Nain, mam Mair, yn byw yn Nhregarth) yn rhoi cyfle i William John ail-danio ei angerdd am y Chwarel, a’i phobl. Ond roedd ganddo rhywbeth arall, mwy creulon, i’w atgoffa am ei gyfnod yn y Chwarel. Dirywioddd ei iechyd tua diwedd y 1960’au, cafodd wybod ei fod yn dioddef o silicosis, ac hefyd fe’i drawyd gan y diciau, clefyd sydd yn aml yn gysylltiedig efo silicosis. Bu’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Gallt y Mynydd, ger Llanybydder, am rhai misoedd. Wedi dychwelyd adref i Aber-porth, penderfynodd William John a Mair mai ymddeol i Ddyffryn Ogwen, fyddai’r cam nesaf iddynt, a prynwyd cartref yn Nhregarth.
Symudwyd yno yn ystod haf 1970, ac mae’r cyfan o’r ysgrifau sydd wedi eu cynnwys yma yn deillio o’r chwe mlynedd dilynol. Roedd William John a Mair yn hapus i fod yn ôl adref yn eu bro genedigol, yn ail-gysylltu efo cyfeillion bore oes, ac yn rhan o’u cymuned. Cyfle, felly, i Mair ymuno yn nosbarthiadau nos ei chyn Athro Hanes yn Mhrifysgol Bangor, A.H. Dodd ; ac i William John gychwyn cofnodi ei atgofion am y Chwarel. Roedd dyfodiad y papur bro lleol, Llais Ogwan, yn golygu bod cyfle i William John ( a llawer arall, hefyd) gyhoeddi eu hatgofion a’u rhannu efo cynulleidfa werthfawrogol. Ategwyd y gwerthfawrogiad yna gan Mair, ac yn ddiweddarach gennyf innau hefyd, gan fy mod ym Mhrifysgol Aberystwyth o 1974 ymlaen, yn astudio ar gyfer gradd Hanes.
Bu marwolaeth Mair yn Hydref 1976 yn ergyd i bawb ohonom, ac yn arbennig i William John. Diflannodd peth o’r angerdd a’r awydd i gofnodi ac egluro. Yn ogystal, hefyd, roedd y silicosis yn dylanwadu’n gynyddol ar ei allu i anadlu a symud, a bywyd yn mynd yn fwy-fwy heriol. Bu’n rhaid iddo symud i fyw mewn cartref gofal yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan ail-gydio i rhyw raddau yn ei gofnodi. Erbyn y cyfnod yma, roeddwn wedi cychwyn fel myfyriwr ymchwil yn yr Adran Hanes Cymru yn Aberystwyth – a buan iawn y sylweddolais fod William John yn ffynhonnell ardderchog ar gyfer gwybodaeth uniongyrchol am hanes cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol Dyffryn Ogwen. Cynhwyswyd peth o’i wybodaeth yn fy nhraethawd Doethuriaeth.
Bu William John farw yn 1982. Mae ei dystysgrif marwolaeth, fel y gellid gweld, yn nodi mai clefyd diwydiannol a’i laddodd, sef silicosis. Ond roeddwn wedi addo iddo, ac i mi fy hunan hefyd, y byddwn yn mynd ati i gyhoeddi ei ysgrifau, fel y gallai cynulleidfa ehangach elwa o wybodaeth a phrofiad chwarelwr balch, deallus, oedd yn deall ei gymdeithas a’i chwarel i’r dim.
gan
Dafydd Roberts
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment