Cricieth - Murlun yng nghyntedd y Neuadd Goffa gan Ffion Gwyn
Disgrifiadau
Cricieth - Murlun yng nghyntedd y Neuadd Goffa gan Ffion Gwyn.
HEDDWCH 1918-2018.
Daeth diwedd ar y Rhyfel Mawr, gyda'r dathlu wrth groesawu'r milwyr adref, yn ôl i'w bro, i'w cynefin a'u cartefi. Camu oddi ar fwrlwm a chynnwrf y tren i orsaf gyfarwydd Cricieth, i gyfarfod a'u teuluoedd o'r diwedd. Yn y dorf; tadau a mamau, meibion a merched, gwragedd, brodyr a chwiorydd, teidiau a neiniau, ffrindiau annwyl - all yn estyn llaw neu gofleidio'n dyner gan sibrwd geiriau caredig, cysurlon. Gwraig yn gafael mewn llythyr o newyddion o faes y gad, a'r bluen wen yn llaw'r plentyn, wedi disgyn o'r golomen uwch ben, all erbyn hyn yn neges o obaith am ddyfodol gwell.
Er y dathlu, 'dyw pelydrau'r haul llachar uwchben ddim yn cyffwrdd pawb - beth am rheini a brofodd dristwch, tor calon, dicter a ffawd? Gwelir bod yna angerdd, a thosturi wedi suddo i fyw llygaid rhai, a duwch yn llechu dan fondo'r orsaf. Ceir poster ar ben arall yr orsaf "I Fyddin Fechgyn Gwalia" yn dal yn y cysgodion, yn atgof anghynnes o'r hyn oedd i'w ddisgwyl.
Ar brynhawn braf, dacw'r castell a'i furiau cryfion ar y gorwel, y golomen wen uwchben yn ymestyn ei hadenydd mewn awel o wynt cynnes - dathliad o ddiwedd a dathliad o ddechrau newydd. Cafodd llawer o'r teimladau a fynegwyd uchod eu hymgorffori mewn cerdd Gymreig gan T. E. Nicholas, 'Niclas y Glais', yn ei gasgliad; 'Cerddi Rhyddid', Dyddiau Heddwch. Gwelir y gerdd ar dudalen o bapur newydd ym mlaendir y paentiad, atgof o obaith, terfyn a "Heddwch".
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment