Cricieth – Sul y Cofio 2018
Disgrifiadau
Cricieth – Sul y Cofio 2018. Cyfres o ddigwyddiadau yn Neuadd Goffa Criccieth ar ddydd Sul y Cofio'r 11eg. Roedd y Gwasanaeth Coffa yn y bore dan ei sang. Yn y prynhawn cafwyd cyngerdd o gerddoriaeth gan y basydd a’r cyfansoddwyr David Heyes. Dilynwyd gyda the prynhawn i’r gymuned gydag Emma Buckley ar y Delyn. Cyfranwyd cacennau a danteithion gan nifer o fusnesau’r dref a phentref cyfagos Pentrefelin. I ddilyn cafwyd perfformiadau o waith gan blant Ysgol Treferthyr. Gwyneth Glyn a Twm Morys, darlleniadau o lythyron a ddanfonwyd gan filwyr lleol i deulu a ffrindiau a chanu caneuon o’r cyfnod gan y Starlight Players ac aelodau Prifysgol y Drydedd Oes. Diweddwyd yr wythnos gyda Seremoni Ffagl Goleuni ar y Prom. Ffotograffau gan Terry Mills
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment