Cricieth – Llwybr Heddwch
Disgrifiadau
Cricieth – Llwybr Heddwch.
Crewyd y rhodfa, sy'n arwain o'r gatiau hyd at fynedfa'r Neuadd Goffa gan fyfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor fel cyfraniad i'w cymuned, yn atgof parhaol o ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Er mwyn ystyried dyluniad addas ymwelodd y myfyrywr a'r ardd o flaen y neuadd i glywed hanes yr adeilad. Yna rhoddodd un ei law ar y garreg sy'n dathlu gosod sylfeini'r neuadd nol yn 1922, a chymryd cam yn ôl, i ddarllen yr arysgrif, gan bontio canrif o gofio. Eisteddodd rhai ar y meinciau cofio, a bu eraill yn braslunio'r adeilad hardd. Yn ddiweddarach ceisiwyd defnyddio clai i adlewyrchu ar y profiad cofiadwy o glywed, dysgu, profi a gweld. Roedd y cyfrwng yn rhoi cyfle iddynt synhwyro a chyfleu'r teimlad a'r emosiwn sydd ynghlwm a'r gofeb, fel cynrychiolwyr cyfoes o genedlaethau o gofio. Gosodwyd y priddlechi gorffenedig un ochr i'r llwybr, i gymell y sawl sydd yn cerdded arno i gymryd camau ymlaen, a mewnosodwyd clai du ar wyn mewn llythrennau i gario neges addas sy'n cysuro a llonyddu'r meddwl. Wrth ymchwilio ymhellach ar-lein, cafwyd hyd i benillion gan y bardd Cemaes, mewn papur newydd o 1901 yng nghrombil Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd yn holi; "Beth yw Heddwch?" gan gynnig nifer o atebion felly seiliwyd y cyfanwaith ar y gerdd honno. Wrth gerdded i fyny'r llwybr tuag at fynedfa'r Neuadd Goffa, mae'r eirfa yn symud gyda'r cerddediad, fel awel deg, a phlu'r golomen heddwch unwaith eto'n hedfan yn osgeiddig gan fframio'r rhodfa heddwch.
Gosodwyd mainc goffa odidog efo dyluniad o silwét o filwyr, a'r pabi coch arni yng ngerddi'r Neuadd Goffa yn edrych dros y llwybr heddwch. Rhoddwyd y fainc gan Gricieth yn ei Blodau, Y Neuadd Goffa, a Chyngor Tref Cricieth, i gofio am y canmlwyddiant; "Lie i'r enaid gael llonydd'.
BETH YW HEDDWCH
Beth yw “ Heddwch” Angel tyner
A ymlidia boen a chwyn,
Ac a dry adnod a’u pryder
Yn anthem a’u melys mwyn:
Heddwch ydyw’r haul yn gwenu
Heb un arwydd cwmwl du.
Ac yn peri’r blodau dyfu
I addurno’i lwybrau cu.
Beth yw “Heddwch” Gwain y cleddyf
A distawrwydd arfau tan,
Noswyl yw i’r milwyr dewr cryf
Ochain trwyddod roi’r yn gan
Cefn for tawel ydyw heddwch
Heb un storm yn crwydro’i wedd
Na’r un graig i droi ei harddwch
Yn ofnadwy, ddyfrllyd fedd.
Heddwch ydyw sail cymdeithas
Colofn gadarn undeb yw
Cyfrwng grasidd’oda’r at gas
yn gyfeillgar at ei Dduw.
Beth yw heddwch sain gorfoledd
Gwyd o ddyfnder nwyfus fron
Anthem felys o glod fonedd
Ni cheir nodyn lleddf yn hon
D.R Owen Siop y Bont Cemaes Gwalia Mehefin 11 1901
Ffotograffau gan Ffion Gwyn
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment