Cricieth – Negeseuon mewn poteli.
Disgrifiadau
Cricieth – Negeseuon mewn poteli.
Weithiau mae pobl sy'n mynd am dro ar hyd y blaendraeth yn dod ar draws poteli sy'n cynnwys negeseuon. Nid ydynt mor gyffredin y dyddiau hyn ond yn yr hen amser, yn ystod dyddiau llongau hwylio, tybid fel rheol eu bod yn cynnwys negeseuon oddi wrth ryw forwr druan ar long dyngedfennol ar fin suddo, ar ei ben ei hun ar rafft neu ynys anial; hyd yn oed yn cael ei ymosod gan fôr-ladron. Mewn gwirionedd, roedd y negeseuon yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau. Efallai y byddai lanc neu ferch ifanc oedd yn chwilio am gariad neu’n cyhoeddi eu cariad at ei gilydd yn taflu potel yn y môr ar noson olau leuad ramantus. Byddai llongau a sefydliadau ymchwil yn lansio cannoedd o boteli gyda negeseuon i gysylltu â nhw fel rhan o ymchwil i geryntau'r cefnfor. Weithiau roedd yn chwilfrydedd i weld pa mor bell y byddai'r botel yn teithio. Roedd llawer o negeseuon mewn poteli yn ffug creulon ond roedd yn rhaid eu harchwilio o hyd.
Cyn dyddiau radio, roedd llongau allan o gyfathrebiad am wythnosau lawer. Hwyliodd llawer o longau o borthladd a diflannodd a chollwyd yr holl griw, neu cawsant eu difrodi'n ddrwg mewn stormydd a cholli'r rhan fwyaf o'u hwyliau a chyrraedd pen eu taith wythnosau lawer yn hwyr. Ym mis Gorffennaf 1907 daeth ysgolfeistr o Forfa Bychan o hyd i botel a’r neges yn darllen “ Mai 31 1902 - Lat N 42.3 W, Long W 43.8, Barque Ellis P Griffith o Gaerdydd wedi colli ein mastiau ac yn suddo”. Tua’r un amser, daeth Richard Williams o Deras Capel, Cricieth ar draws un gyda’r neges “ T.Harper, rwyf wedi ymladd brwydr dda. Rwyf wedi gorffen fy nghwrs”. Roedd potel a olchwyd i fyny rhwng Cricieth a Phorthmadog, honnir gan Jack Robson o’r UDA, yn darllen, “Rydw i ar fwrdd y Kernel ac mae’r llong yn mynd lawr yn gyflym gyda phawb ar y dec. Ffarwel i bawb.” Tybiwyd bod yr un hwn yn ffug. Yn y 1950au, fel ymgyrch gyhoeddusrwydd, trefnodd Bragdy Guiness i 150,000 o boteli boglynnog arbennig gael eu gollwng o 30 o longau cargo yn yr Iwerydd. Roedd y poteli wedi'u selio â chapiau plwm i ddiogelu'r nifer fach o ddogfennau oedd ynddynt, a'r mwyaf diddorol o'r rhain oedd tystysgrif liwgar gan 'Swyddfa'r Brenin Neifion'. Yn ogystal roedd llyfryn bach yn adrodd hanes Guinness. Daethpwyd o hyd i un o'r poteli hyn ar y banc graean, yr Heraig, rhwng Cricieth a Chraig Ddu gan ddau fachgen ym 1959. Ysgrifennon nhw at y bragdy ac mi wnaetho nhw dderbyn pethau cyhoeddusrwydd a phwys papur gwydr gyda map o'r Iwerydd yn dangos lle lansiwyd y botel. Math arall o neges mewn potel yw'r “Capsiwl Amser” sy'n cynnwys neges a phethau cofiadwy wedi'u claddu, neu hyd yn oed eu hanfon mewn roced i'r gofod allanol, i goffáu achlysuron arbennig. Ym 1922 gosododd y Prif Weinidog David Lloyd George un y tu ôl i garreg sylfaen Neuadd Goffa Cricieth. Roedd y botel yn cynnwys papur newydd lleol, darnau arian, rhestr o danysgrifwyr i adeilad y Neuadd a neges.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment