Freddie Welsh (1886-1927), y pencampwr bocsio o Bontypridd
Freddie Welsh (1886-1927), y pencampwr bocsio o Bontypridd
Disgrifiadau
Ganed y bocsiwr Freddie Welsh (1886-1927), neu Frederick Hall Thomas, yn Nhafarn y Bont, Pontypridd. Pan oedd yn 16 oed gadawodd ei gartref gan deithio i Ganada a Gogledd America i chwilio am fywyd newydd. Ymladdodd ei ornest gyntaf yn Philadelphia ym mis Rhagfyr 1905, gan ymladd o dan yr enw Freddie Welsh. Wedi cyfnod yn Awstralia dychwelodd Welsh i Gymru lle dechreuodd wneud ei farc fel bocsiwr. Cafodd ei goroni'n bencampwr pwysau ysgafn Cymru ym 1907 ac erbyn haf 1914 ef oedd pencampwr pwysau ysgafn y byd. Daliodd ei afael ar y teitl hwn hyd 1917. Bu farw yn ddyn tlawd yn Efrog Newydd ym 1927.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment