Freddie Welsh vs Jim Driscoll
Gosod y llwyfan
Ar 20 Rhagfyr 1910, daeth tyrfa fawr at ei gilydd yn yr American Roller Rink ar Stryd Westgate yng Nghaerdydd i wylio dau ddyn yn ymladd i gael ei enwi'n baffiwr pwysau plu gorau Cymru, os nad y byd.
Gosodwyd y llwyfan ar gyfer yr ornest fawr, ond roedd sylwadau'r wasg a threchafwriaeth wedi codi'r tyndra cymaint fel na fyddai erioed yr arddangosfa o fedrusrwydd yr oedd pawb yn gobeithio amdani ...
'Peerless' Jim Driscoll
Yn un gornel, eisteddai Jim Driscoll.
Roedd Driscoll yn cael ei adnabod yn 'Gentleman Jim', ond er iddo ymddangos yn ddyn tawel a diymhongar, roedd yn baffiwr cryf a medrus. Er fod ei gorff yn fyr a thenau, yr oedd wedi paffio yn y ffeiriau yn ei ieuenctid, gan ddysgu'r grefft a gwella'i sgiliau.
Yr ornest hon oedd ymgais Driscoll am deitl pwysau plu Prydain a enillodd Welsh ym mis Tachwedd 1910. Roedd Driscoll ei hun wedi bod yn bencampwr pwysau plu Prydain ers 1906 ac wedi herio am deitl y byd ym 1910 ond methodd a chael 'knock-out', ac felly ni enilliodd y goron.
Freddie Welsh
Yn y gornel arall, eisteddai Freddie Welsh, pencampwr pwysau ysgafn Cymru, Prydain ac Ewrop.
Daeth Welsh, a aned yn Frederick Thomas, i fri yn yr Unol Daleithiau. Roedd wedi paffio mewn ffeiriau am arian ac wedi datblygu steil garw ac afreolus.
Ac yntau ond yn 5 troedfedd a 7 modfedd ac yn pwyso naw ston a hanner, byddai Welsh yn cyrcydu a dowcio, a tharo arennau a phen ei wrthwynebydd, tactegau oedd yn cael eu hystyried yn 'anfonheddig' yn ei famwlad.
Roedd ei ornest am deitl Ewrop ym 1909 wedi denu torf o 15,000 i Aberpennar, y dorf fwyaf i wylio gornest baffio yng Nghymru ar y pryd.
Yr Ornest
Nid oedd yn hir cyn i'r ornest ddirywio yn frwydr stryd wrth i dactegau Welsh atal Driscoll rhag defnyddio'i fraich chwith enwog a dangos ei sgiliau.
Yn ystod y degfed rownd o ugain, collodd Driscoll ei dymer yn llwyr a phenio Welsh o dan ei ên a'i anfon ar draws y ring baffio, gan orfodi i'r dyfarnwr ei ddiarddel.
Ni fu ornest arall rhyngddynt ac mae'r ddadl ynglŷn â p'un oedd y paffiwr gorau'n parhau.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment