Taith Tywys Foel Drygarn - Diwrnod Archaeoleg 2020 Archaeology Day - Foel Drygarn Virtual Walk
Disgrifiadau
Taith tywys rhithwir Foel Drygarn hefo Carol Pearce, Chwedleuwraig a Tomos Ll. Jones, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (yn yr iaith Gymraeg hefo isdeitlau)
Cyn COFID-19, roedd tîm prosiect Ein Cymdogaeth Werin yn bwriadu danfon taith tywys archaeolegol o’r fryngaer Oes Haearn Foel Drygarn, Crymych yn wanwyn 2020. Roedd y daith fod i gael ei arwain gan Archaeolegydd Cymunedol y Parc Cenedlaethol mewn partneriaeth hefo Chwedleuwraig. Fase’r Archaeolegydd Cymunedol wedi rhoi cyfle i ymwelwyr ddeall mwy am y nodweddion archaeolegol ar y safle, tra base’r Chwedleuwraig wedi dod a’r lle yn fyw trwy ddychmygu beth roedd byd fel i’r trigolion yn ystod y cyfnod.
Hefo datblygiad o ffyrdd newydd o weithio, penderfynodd tîm y prosiect i ddanfon y daith yma yn rhithwir. Tra mae’r Archaeolegydd Cymunedol yn tynnu sylw at y nodweddion ar y safle, mae’r Chwedleuwraig yn trafod bywyd ar y safle, gan gynnwys profiadau synhwyraidd o’r trigolion oedd yn byw ar y safle.
Mi fydd y cyfle i weld y daith ar gael yn ystod amser cinio rhwng 12pm a 2pm.
Mae’r ffilm wedi ei chynhyrchu trwy brosiect Ein Cymdogaeth Werin.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment