IMG_20210619_133332-01.jpeg
Disgrifiadau
Roedd hi yn Haf 2021 prysur i PLANED & Span Arts wrth iddyn nhw gydweithio i gyflwyno gweithdai treftadaeth gymunedol Can y Ffordd Euraidd fel rhan o brosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Recordiwyd y gweithdai hyn a eu trawsnewid fel allbwn terfynol – sef Baled Radio. lawnsiwyd y faled yn Hydref 2021! Dymar ail gweithdy a gynhaliwyd yn Crymych, lle gwnaethom ganolbwyntio ar amaethyddiaeth ac ecoleg rhanbarth Preseli. Mwynhaodd y grŵp gyflwyniad yn Neuadd y Farchnad yn y bore, ac yna taith gerdded o Crymych i Foel Drygarn. Ymunodd Mary Chadwick, swyddog cadwraeth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro â ni i rannu sut mae ardal Preseli yn cael ei rheoli o ran pori ar gyfer bioamrywiaeth. Ymunodd Arwel Evans Pensarn, Swyddog Cyswllt Ffermio y Parc â ni mewn ysbryd – gan anfon cyflwyniad atom o’r ffordd y mae’r myny’ yn cael ei reoli, gan gynnwys llosgi ac atal tân gwyllt.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment