Skip to main content

Cricieth - Moel y Gest.

Disgrifiadau

Cricieth - Moel y Gest.
Tair milltir i’r dwyrain o Gricieth mae Moel y Gest, bryn creigiog o 263m (863’). Mae wedi'i amgylchynu ar bob ochr gan dir isel ac felly mae'n amlwg iawn. Mae wedi gweld llawer o weithgaredd dynol dros filenia. Ar ei gopa mae adfeilion oes yr haearn sydd gyda sawl hynodyn sy'n ei gwneud hi'n anodd eu deall. Cafwyd sawl ymchwiliad archeolegol sy'n amhendant ac mae'n bosibl bod gan yr adfeilion arwyddocâd crefyddol yn hytrach na milwrol. Ond, yn y 19eg ganrif, darganfuwyd pentwr o gerrig mân crwn a allai fod yn adnoddau ffon-dafl yn y cyffiniau. Wedi'i leoli ar y llethr sy'n wynebu'r gorllewin, 0.75K i'r de o'r adfeilion hyn mae cromlech Neolithig gydag olion cylchoedd cytiau o'r Oes Efydd gerllaw. Mae'r heneb hon, o'r enw Cist Cerrig, yn cynnwys dwy garreg unionsyth a stepen drws bosibl (1). Er ei fod mewn adfail, awgrymwyd bod siambr hirsgwar yn bodoli ar un adeg. Mae'r archeolegwyr blaenllaw o Gricieth, William J. Hemp a Colin A. Gresham, wedi astudio'r safle ac wedi ysgrifennu papurau academaidd gyda'u dehongliad.
Mae'n debyg bod yr enw Moel y Gest yn deillio o “Bryn moel yng Nghest”. Gest yw'r rhaniad tir hynafol, a elwir trefgordd, sy'n gorwedd rhwng Cricieth a lle datblygodd Porthmadog yn ddiweddarach ac mae'n cynnwys plwyfi Ynyscynhaearn a Treflys. Mae Robert Isaac Jones, yn ei lyfr Y Gestiana (1892), yn rhoi disgrifiad manwl iawn o'r ardal gyda ffeithiau hanesyddol, chwedlau a llên gwerin. Mae'n ysgrifennu am y nifer o dreialon a wnaed, gan chwilio am fwyn haearn, sylffwr, cerrig llorio, llechi toi a chloddio plwm a chopr ar y bryn ac o'i gwmpas. Mae'n bosib bod y Rhufeiniaid wedi mwyngloddio am gopr yn Bron y Gadair. Fe wnaeth gwaith pellach yno dynnu allan cannoedd o dunelli yn y 19eg ganrif. Ar y llethr gogleddol mae'r chwarel gwenithfaen yn amlwg iawn. Chwarelwyd setiau neu gerrig sgwâr a naddion i'r 20fed ganrif. Gellir gweld llethr y tram i lawr i waelod y bryn o hyd.
Ar ochr orllewinol y bryn mae Bron y Foel, o bosib y tŷ hynaf yn yr ardal. Llys neu neuadd disgynyddion Collwyn ap Tagno ydoedd. Un o'i drigolion enwog oedd Hywel ap Gruffydd neu Syr Hywel y Fwyall a oedd yn gwnstabl Castell Cricieth yn y 14eg ganrif. Roedd cenedlaethau diweddarach y teulu hwn mewn ymryson ffyrnig rhwng disgynyddion Owain Gwynedd, dros berchenogaeth tir, a arweiniodd at losgi'r tŷ.
I'r gorllewin, o Ystumllyn a Cricieth mae'r bryn yn cymryd proffil Dug Wellington gyda'i drwyn wedi torri! Roedd y Dug yn enwog am ennill Brwydr Waterloo ac roedd yn Brif Weinidog deirgwaith yn ystod y 19eg ganrif felly roedd ei ymddangosiad yn adnabyddus i bobl leol ac ymwelwyr (2). Enwyd teras yng Nghricieth yn Wellington Terrace gan fod y bryn i'w weld oddi yno. Fodd bynnag, pan adeiladwyd Capel Seion (Capel y Traeth) yn yr 1890au cuddiwyd yr olygfa!

Owner:
Cricieth Enwau Chwedlau a Chân Criccieth Songs Places and Legends
Crëwr:
Ffion Gwyn - Robert D.Cadwalader
Gwybodaeth drwydded
Trwydded Archif Greadigol Creative Archive License
Eitem wedi’i llwytho:
6/12/2021
Date originally created:
6/12/2021
Gwelediadau:
908
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment