Cricieth - Gwêr – Ganhwyllydd
Disgrifiadau
Person fyddai’n gwneud ac yn gwerthu canhwyllau oedd y Gwêr-ganhwyllydd. Yn hanesyddol byddai canhwyllau wedi gwneud yn bennaf o wêr, math o fraster anifeiliaid, a oedd yn ffordd rad i bobl oleuo eu cartrefi gyda’r nos. Crëwyd y gwêr o fraster cig eidion, defaid neu foch. Mae tebyg bod gwêr o wartheg neu ddefaid yn ddefnyddiol gan y byddai'n aros yn solet ar dymheredd ystafell, ac ar gael yn rhad.
Roedd lladd-dy wedi ei lleoli wrth droed bryn Dinas yn yr Hen Dref, a redir mewn blynyddoedd diweddarach gan y brodyr Humphreys. Roedd sgil-gynhyrchion i'r busnes hwn. Croen anifail oedd Crwyn (Hides) a’r Gwêr (Tallow) oedd y braster fyddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer creu canhwyllau a sebonau. Roedd yna ddau fath o fraster - defnyddiwyd y siwed, sy’n gorwedd yn agosaf at y croen, ar gyfer coginio a ddefnyddiwyd y gwêr ar gyfer canhwyllau a sebon. Cafodd y ddau fath eu berwi a’r hylif ei thywallt i fagiau a dyma ble gafodd y gwêr-ganhwyllydd y braster. Gwnaed y wiciau o edafedd troellog o lin cotwm neu gywarch. Defnyddiwyd brwyn i greu canhwyllau gwêr, ffordd ratach o oleuo; stribed o ffibr planhigion wedi’u trwytho a gwêr neu saim. Rhoddwyd y brwynwn mewn daliwr arbennig o bren neu fetel. Yn aml byddai hwnnw yn cael ei fowntio ar wal i arbed lleithder. Roedd goleuadau cynnar eraill yn cynnwys fflach lampau o bren olewog, lampau oedd yn cynnwys braster anifeiliaid neu olew, neu ganhwyllau cwyr gwenyn. Daeth lampau olew a pharaffin yn gyffredin ar gyfer tai a goleuadau stryd (nid oedd nwy yng Nghricieth).
Roedd y gwestai mawr, y capeli a rhai adeiladau yn rhedeg generaduron ar ddechrau'r 20fed ganrif gan nad tan 1927 cyrhaeddodd y prif gyflenwad trydan i'r dref. O fewn cof byw roedd rhai bythynnod a oedd yn dal i ddefnyddio lampau olew a chanhwyllau.
David Griffith ac Evan Evans
Ganwyd David Griffith yn 1790 yng Nghricieth a bu’n byw yng Nglanrafon Uchaf (yn agos i lle mae Capel Berea yn sefyll heddiw). Roedd yn forwr, ac ar ôl iddo ymddeol o’r môr, yn y 1850au, dechreuodd fusnes fel Gwêr-ganhwyllydd gan fyw yn yr un cyfeiriad. Bu farw yn 1868 a chymerwyd y busnes drosodd gan Evan Evans, cymydog, ac efallai perthynas a oedd cyn hynny yn gludwr. Yng nghyfrifiad 1881 nodir ei alwedigaeth fel “Groser a Gwêr-ganhwyllydd” (Grocer and Tallow Chandler). Byddai wedi gwerthu canhwyllau, sebon a deunyddiau glanhau erill megis brwsys, bwcedi, mopiau ac ati. Bu farw yn 1893 ac mae’n ymddangos fod y busnes wedi dod i ben.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment