Cricieth - y Morwyr
Disgrifiadau
Amser maith yn ôl roedd Eifionydd yn lle ynysig, ei phoblogaeth yn denau. Yr unig ffordd i mewn ac allan oedd trwy draciau a llwybrau gwael felly edrychodd y trigolion allan i’r môr. Mae’r sôn morwrol cyntaf yn ystod gwarchae Madog ap Llywelyn ym 1295 pan ddaethpwyd â bwyd a nwyddau i mewn gyda llongau o Iwerddon. Er nad oedd harbwr, gallai llongau bach draethu ar lanw uchel yng nghysgod craig y castell a morglawdd amrwd. Wrth i’r llanw trai a’r llong sychu allan, dadlwythwyd y cargo i mewn i gerti. Deuent â chalchfaen a glo i mewn ar gyfer yr odyn galch, grawn i’r felin a nwyddau cyffredinol.
Pan agorwyd yr harbwr ym Mhothmadog yn 1825 cymerodd dynion Cricieth ran yn y datblygiad fel morwyr, adeiladwyr longau ac fel gweithwyr ar y ceiau. Un o’r llongau cynnar oedd yr ‘Eivion’, yn eiddo i ‘r Capten David Williams, a agorodd siop wrth ymyl lle safai’r eglwys Sant Deiniol heddiw. Gwnaeth llawer o fechgyn Cricieth eu mordeithiau cyntaf ar y llongau Borthmadog yn y fasnach lechi ac yna symud i’r llongau hwylio mawr haearn a dur o Lerpwl a Chaerdydd. Daeth llawer yn gapteiniaid.
Mae’n anodd credu hynny heddiw, ond roedd dwsinau o’r llongau hyn yn eiddo i berchnogion o Gricieth neu’n cael eu rheoli oddi yno. Y Capten Thomas Williams, o Parciau, oedd yn rhedeg y Cambrian Line. Mordaith nodweddiadol fyddai teithio i Awstralia gyda nwyddau cyffredinol, yna cludo glo neu rawn i Chile neu Periw ac yna yn ôl i Ewrop o amgylch Penrhyn yr Horn gyda guano (baw deryn). Perchennog arall oedd Robert Thomas, Cardigan House, (sydd bellach yn Greystoke), roedd ganddo ef, ac yna ei fab, fflyd o longau hyd at 1922. Roedd y mwyafrif o’r capteiniaid a llawer o’r criwiau o Lŷn ac Eifionydd.
Ar ôl i ddyddiau'r llongau hwylio ddod i ben, byddai'r dynion lleol (a rhai merched) yn hwylio ar y stemars o Lerpwl a’r Llynges Frenhinol. Yn y tair mynwent yng Nghricieth mae dros hanner cant o gapteiniaid wedi claddu neu eu coffáu, heb sôn am y morwyr, peirianwyr morol, cogyddion ac eraill: collwyd llawer ar y môr. “Does ganddyn nhw ddim bedd ond y môr creulon”.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment