Angharad Davies, ‘Stori’r goedwig / Story of the forest’ - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiadau
Cyfansoddiad Angharad Davies, Stori’r goedwig / Story of the forest’, darn a gomisiynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, fel rhan o’r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain. Ysbrydolwyd y gwaith gan gyfweliadau hanes llafar o’r casgliad Hanes y Goedwig. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o 10 Canolfan rhwydweithio Cadwraeth Sain sydd wedi’u sefydlu ledled y DU i gydweithio gyda’r Llyfrgell Brydeinig ar y prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain. Nod y prosiect, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw diogelu hanner miliwn o recordiadau sain prin ac sydd mewn perygl o gael eu colli, gwella mynediad at y synau, a darparu rhaglen o weithgareddau dysgu ac ymgysylltu. #DETS #UOSH angharaddavies.com
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment